Croeso i'n gwefan newydd
Yn cychwyn ar gyfer blwyddyn ysgol 2011 - 2012
Gweithdai ysgol i bob cyfnod allweddol
o'r dosbarth derbyn i'r chweched mae dysgu'n hwyl gyda ni

Mae gweithdai pensaernïol yn adnawdd i gyfoethogi cwricwlwm ysgol, gan gynnig dirnadaeth o bam a sut mae pethau fel y maent, a chymorth catalytig i athrawon.
Yn y gweithdai, mae'r ymchwil i ddeall y byd o'n cwmpas yn gyd-brofiad rhwng cyflwynydd y gweithdy, yr 'animateur', y disgyblion a'u hathrawon. Cyflwynir delweddu, dylunio, creu, cyfrifo a dadansoddi drwy weithgareddau ymarferol â llaw. Mae'r disgyblion yn mwynhau ac yn dysgu am y byd o'u cwmpas drwy ddeall a chymeryd rhan mewn gweithrediadau sydd fel arfer i rai proffesiynol yn unig.
